Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Medi 2023
Amser:
09.32 -
12.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13472
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
James Gibson-Watt, Cyngor Sir Powys Kellie Beirne, Bargen Ddinesig: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Jonathan Burnes, Swansea Bay City Deal Clive Davies, Cyngor Sir Ceredigion Carwyn Jones-Evans, Cyngor Sir Ceredigion Councillor Dyfrig Siencyn, Cyngor Gwynedd David Simpson, Cyngor Sir Penfro Hedd Vaughan-Evans, Uchelgais Gogledd Cymru Nicola Williams, Cyngor Sir Powys |
Staff y Pwyllgor: |
Lara Date, Ail Glerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Karen Williams, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Sara Moran, Ymchwilydd Ben Stokes, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd Katy Orford, Ymchwilydd Nia Moss, Ymchwilydd Lucy Morgan, Ymchwilydd |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
2.1 Cyfarfod y Pwyllgor Gweinyddol – 17 Mai 2023
2.2 Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24
2.3 Gwaith dilynol ar ôl sesiwn graffu gyffredinol ar waith y Gweinidog ar 21 Mehefin 2023
2.4 Gwaith dilynol ar ôl sesiwn graffu gyffredinol ar waith y Gweinidog ar 21 Mehefin 2023
2.5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig
2.6 Triniaethau Hadau Indrawn Porthiant
2.7 Gweithgynhyrchu yng Nghymru – ymchwiliad undydd - 8 Mehefin 2023
2.28 Amserlen Ddrafft Cyllideb 2024-25
2.9 Gwasanaeth Rhagnodi Electronig Gofal Sylfaenol
2.10Y Bil Bwyd (Cymru): Ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor
2.11Y DU/Y Swistir: Cytundeb ar Gydnabod Cymwysterau Proffesiynol
2.12Gyrwyr HGV yng Nghymru
2.13Ymchwiliad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol: Gallu Datganoli yn Whitehall
2.14Cynllun Natur y Bobl
2.15Cynllun Dychwelyd Ernes
2.16Model Gweithredu Targed y Ffin
2.17Cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach ar 7 Medi
2.18Memorandwa Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)
3 Bargen Twf Canolbarth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.
4 Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Bargen Twf Gogledd Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.
4.2 O dan Reol Sefydlog 17.47, gwnaeth y Cadeirydd atal y trafodion dros dro i ddatrys mater technegol. Cafodd y trafodion eu hatal dros dro o 10:58 i 11:01.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y Cynnig i wahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod.
6 Papur cwmpasu: Ymchwiliad i ynni niwclear ac economi Cymru
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd ar gwmpas a dull gweithredu ar gyfer ymchwiliad i Ynni Niwclear ac economi Cymru.
7 Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023: Diweddariad
7.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gyfraith yr UE a ddargedwir a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi wneud yr hyn a ganlyn:
· Cadarnhau a oes unrhyw gynlluniau'n cael eu datblygu i ddefnyddio'r pwerau newydd a ddarperir i Weinidogion Cymru gan y Ddeddf;
· Cadarnhau a yw'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r pwerau newydd mewn meysydd datganoledig, neu mewn meysydd a gadwyd yn ôl a fydd yn effeithio ar Gymru; a
· Rhannu copi o'i dadansoddiad diweddaraf o gyfraith yr UE a ddargedwir a restrir yn Atodlen 1 o fewn cylch gwaith y Pwyllgor hwn.
8 Diweddariad ynghylch cytundebau masnach: Haf 2023
8.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Gytundebau Masnach a chytunwyd i wneud yr hyn a ganlyn:
· Ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn am ei dadansoddiad o'r hyn y mae Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel yn ei olygu i Gymru.
· Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ei dogfen safbwynt yn manylu ar ei dadansoddiad o aelodaeth Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel; a
· Ystyried cymryd camau pellach ar ôl cael y ddogfen, gan gynnwys monitro parhaus o effeithiau disgwyliedig y cytundeb, cael tystiolaeth rhanddeiliaid a rhannu gwybodaeth â phwyllgorau cyfatebol yn seneddau eraill y DU.
9 Trafod y Flaenraglen Waith: Gwanwyn 2024
9.1 Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith ar gyfer Gwanwyn 2024 a chytunodd arni.
10 Ymweliad â Brwsel: Papur opsiynau
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau a phenderfynodd roi ystyriaeth bellach i amseriad ymweliad.